SL(6)160 – Rheoliadau Ceisiadau am Gymorth Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Ceisiadau am Gymorth Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Cymru) 2022(“y Rheoliadau”) wedi eu gwneud o dan y pŵer sydd wedi ei gynnwys yn Erthygl 25(b) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (“y Rheoliad CMO”), fel y’i darllenir gydag Erthygl 3(5)(c)(i)(bb) o’r Rheoliad hwnnw. Maent yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Mae’r cynllun llaeth i ysgolion domestig (yr UE yn flaenorol) yn darparu cymorth tuag at gost llaeth mewn ysgolion. Mae’r polisi ar laeth ysgol wedi’i ddatganoli, drwy’r cynllun ac yn cael ei weinyddu ar ran Llywodraeth Cymru gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig o dan gytundebau asiantaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthyglau 4 a 9 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39. Maent yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol sy’n ategu ceisiadau am gymorth o dan y cynllun a sefydlwyd gan Erthyglau 22 i 25 o’r Rheoliad CMO. O'r cychwyn, nodwyd bod y gofynion hyn am dystiolaeth ddogfennol yn anghymesur â'r risg y’u cynlluniwyd i fynd i'r afael ag ef. O’r herwydd, roedd y gofynion rheoli cyn 2017 yn berthnasol ledled y DU, a bwriedir i’r newidiadau presennol osod y cynllun hwn ar sail statudol.

O ganlyniad i’r diwygiadau hyn, rhaid nad yw ymgeiswyr ond yn dal y dystiolaeth ddogfennol honno sydd ar gael i’r awdurdod perthnasol. Yn flaenorol, roedd rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth ddogfennol ategol gyda’r cais am gymorth.

Bydd y Rheoliadau yn sicrhau dull cymesur o gadw dogfennau ar gyfer y rheini sy’n rhan o’r cynllun llaeth i ysgolion yng Nghymru. Bydd yn gofyn iddynt gadw dogfennau sy'n ategu unrhyw gais am gymorth a gyflwynir ganddynt, a threfnu bod y dogfennau hyn ar gael i'w harchwilio. Bydd y newid technegol hwn yn sicrhau y gall hapwiriadau barhau gyda sicrwydd cyfreithiol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau cyn pen 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fydd y Senedd: (i) wedi'i diddymu, neu (ii) ar doriad sy’n fwy na phedwar diwrnod) o'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd yn ei gwneud yn ofynnol fel a ganlyn:

There shall be open and transparent public consultation, directly or through representative bodies, during the preparation, evaluation and revision of food law, except where the urgency of the matter does not allow it.

Mae’r rhagymadrodd i’r Rheoliadau o dan ystyriaeth yn nodi fel a ganlyn:

“Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002…”

At hynny, ailadroddir y geiriad hwn ym mharagraff 3.2 o'r Memorandwm Esboniadol.

Fodd bynnag, nodir bod paragraff 5.1 o’r Memorandwm Esboniadol yn datgan fel a ganlyn:

“Gan nad oes newid mewn polisi, ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus. Unig ddiben yr offeryn hwn yw rhoi sail cyfreithiol i’r trefniadau archwilio presennol. Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu cyfyngedig gydag aelodau presennol o’r Cynllun Llaeth Ysgol yng Nghymru rhwng 28 Ionawr 2022 a 7 Chwefror 2022. Ni ddaeth sylwadau nac ymatebion gan gyfranogwyr yn ystod y broses ymgynghori.”

Yn wyneb yr anghysondeb posibl hwn, gofynnir am eglurhad ynghylch y modd y mae'r camau a gymerwyd, fel y nodir ym mharagraff 5.1 o’r Memorandwm Esboniadol, yn bodloni’r gofyniad statudol i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus tryloyw (h.y. “transparent public consultation”) fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9.

Rhinweddau: Craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb oddi wrth Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

22 Chwefror 2022